Show notes
Dyma ni’n dathlu diwedd cyfres 3 Yr Hen Iaith a’r ffaith syfrdanol ein bod ni wedi cyrraedd 100 o benodau – yn y brif gyfres, heb gyfrif y gyfres lefel A – gyda phennod arbennig a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn y Babell Lên yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Edrychwn yn gyntaf ar ychydig o hanes yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gweld bod nifer o themâu canolog y gyfres hon hefyd yn ganolog yn yr eisteddfodau hynny. Wrth grybwyll y bobl a oedd yn gweithio y tu ôl i’r llenni ac yn ymdrechu i broffesiynoli gweinyddiaeth y r Eiseddfod Genedlaethol…
Website: soundcloud.com
