Show notes
Mae hunanofal yn rhywbeth sy’n hanfodol bwysig i ni gyd. A thra bod iechyd meddwl yn gallu bod yn beth cymhleth a dyrys heb unrhyw atebion hawdd, mae yna bethau gallwn ni wneud i helpu cadw’n meddyliau yn iach, ac mae gwneud y pethau bychain hynny yn medru gwneud byd o wahaniaeth. Yn y bennod hon mae Trystan Ellis-Morris yn trafod rhai o’r pethau hyn - o gelf, i redeg, i nofio gwyllt - yng nghwmni’r cwnselydd celf, Gwawr Roberts, y myfyrwyr Katie Phillips a Cara Walters, y cyflwynydd a hyfforddwr personol Connagh Howard, a’r hyfforddwraig nofio, Caris Hedd Bowen. Mae’n sgwrs ysbrydoledig…
Website: spreaker.com

