Note de episod
Canolbwyntiwn ar Ebenezer Thomas (1802-1863) yn y bennod hon. Mae trafod dechrau’i yrfa lenyddol gynnar yn gyfle i ni ystyried diwylliant barddol Cymraeg hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyffredinol. Bu rhwydwaith o gymdeithasau Cymraeg yn ei fro enedigol, Eifionydd, yn fodd i’r Ebenezer ifanc hogi’i grefft, dod i adnabod beirdd adnabyddus yr ardal megis Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn, ac ennill yr enw ‘Eben Fardd’. Wedyn, mae disgrifio’r modd y daeth yn fardd cenedlaethol o bwys yn dadlennu tipyn ar ddiwylliant eisteddfodol Cymru yn ystod y degawdau cyn i’r Eisteddfod…
Site: soundcloud.com

