Beschrijving
Pe bai’n rhaid dewis un llenor yn unig wrth drafod holl lenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae Jerry Hunter yn dweud y byddai’n dewis Gwilym Hiraethog (1802-1883).
Ganed William Rees mewn teulu o amaethwyr cymharol dlawd ym mhlwyf Llansannan, sir Ddinbych. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd, ond eto byddai’r dyn rhyfeddol hwn yn cyfrannu mewn llawer iawn o wahanol ffyrdd at fywyd llenyddol a deallusol Cymru. Aeth yn weinidog yng Nghapel Lôn Swan, Dinbych, gan ddilyn Robert Everett, ac yn debyg i’r gweinidog hwnnw a ymfudodd i’r UDA, roedd gwrthwynebu caethwasiaeth ymysg…
Website: soundcloud.com

