Shownotes
Dyma ni’n parhau i drafod Gwilym Hiraethog yn y bennod hon, gan graffu ar garreg filltir o lyfr a gyhoeddodd yn 1853, Aelwyd F’Ewythr Robert neu Hanes Caban F’Ewythr Tomos.
Byddai rhyw wyth trosiad Cymraeg o nofel wrthgaethiwol ddylanwadol Harriet Beecher Stowe, Uncle Tom’s Cabin, yn ymddangos erbyn canol y 1850au, ond cyfrol Gwilym Hiraethog yw’r mwyaf diddorol o safbwynt llenyddoldeb, uchelgais a chreadigrwydd. Yn ogystal â chyfieithu ffuglen Saesneg i’r Gymraeg, aeth y llenor o Lansannan ati i lunio cyd-destun ffuglennol Cymreig a Chymraeg gwreiddiol er mwyn cyflwyno’r stori Americanaidd…
Website: soundcloud.com

